Fe fydd merch cyn-gricedwr a phrif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, John Derrick yn rhedeg Hanner Marathon Ynys Môn eleni er cof amdano.
Cafodd John Derrick ei daro’n wael ym mis Awst 2016, a chael gwybod yn ddiweddarach fod tiwmor ar ei ymennydd. Bu farw fis Mawrth y llynedd yn 54 oed.
Bydd y ras yn cael ei chynnal ar Fawrth 4.
Gyrfa
Fel chwaraewr amryddawn, chwaraeodd John Derrick mewn mwy na 200 o gemau i Forgannwg cyn troi ei law at hyfforddi.
Mae’n cael ei ystyried yn brif hyfforddwr mwyaf llwyddiannus y sir, wrth iddo ennill tlws y Gynghrair Undydd Genedlaethol yn 2002 a 2004, cyrraedd Diwrnod Ffeinals y T20 Blast yn 2004, ac fe arweiniodd ei dîm i ddyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth.
Ar ôl gadael Morgannwg, fe weithiodd i Fwrdd Criced Cymru fel Cyfarwyddwr Perfformiad Cenedlaethol, ac roedd yn ddadansoddwr ar raglenni criced BBC Cymru.
Y ras
Wrth egluro’i phenderfyniad i redeg y ras, dywedodd Bethan-Marie Derrick fod gogledd Cymru’n ardal bwysig i’r teulu ar ôl iddyn nhw gael sawl gwyliau yno ar hyd y blynyddoedd.
Dywedodd ei bod hi “eisiau gwneud rhywbeth y byddwn i’n ei gofio am byth er cof amdano”.
“Gan fod fy nhad yn ddyn y campau, roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid bod elfen o chwaraeon i’r peth. Fe wnes i ddewis Ynys Môn gan fod gogledd Cymru’n rywle aethon ni fel teulu yn yr haf pan oeddwn i’n iau.
“Bydd gogledd Cymru bob amser yn fy atgoffa o wyliau’r teulu gyda fy nhad ac mae lle arbennig i’r lle yn fy nghalon.”
Yn ystod ei salwch, derbyniodd John Derrick driniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre, Caerdydd, ac mae ei ferch yn ddiolchgar am y gefnogaeth gafodd ei thad a’r teulu.
“Dw i’n gwybod y byddai fy nheulu’n hoffi diolch i holl nyrsys Felindre,” meddai, “a gobeithio y bydd yr holl arian sy’n cael ei godi drwy’r digwyddiad hwn yn helpu teuluoedd eraill yn eu hangenion fel yr helpodd fy nheulu i.”