Mae clwb pêl-droed Dinas Bangor wedi arwyddo ymosodwr y Seintiau Newydd, Alex Darlington, tan ddiwedd y tymor.

Fe fu Alex Darlington, 29, yn chwarae i’w glwb cartref, Wrecsam, pan yn ifanc ond roedd yn anffodus i dorri ei goes ddwywaith yn ystod tymor 2007/08 a chafodd ei rhyddhau ganddyn nhw ar ddiwedd y tymor hwnnw pan syrthiodd y Dreigiau o’r Gynghrair.

Fe ymunodd â’r Seintiau yn 2008 a chwaraeodd ei gêm gyntaf iddyn nhw yn erbyn FK Suduva o Lithwania. Mae’r Cymro wedi ennill pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru saith o weithiau, a Chwpan Cymru bedair gwaith.

Yn ystod ei yrfa gyda’r Seintiau, fe sgoriodd 94 o weithiau mewn 234 o ymddangosiadau yn yr Uwch Gynghrair.

Wrth i Alex Darlington gyrraedd Nantporth, mae’r ymosodwr James Demetriou yn gadael am Y Barri.