Gateshead 0–0 Wrecsam                                                                

Mae Wrecsam yn aros yn drydydd yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr oddi cartref yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead nos Fawrth.

Chris Holroyd a ddaeth agosaf at ei hennill hi i’r ymwelwyr o ogledd Cymru ond cafodd ergyd ganddo ei harbed gan James Montomery yn y gôl, a pheniodd gyfle arall heibio’r postyn.

Mae’r pwynt yn cadw Wrecsam yn drydydd yn y tabl gyda phymtheg gêm yn weddill.

.

Gateshead

Tîm: Montgomery, Kerr, Byrne, Penn, Barrow, Fyfield, Fox, McLaughlin, York, Burrow, Johnson (McNall 67’)

Cerdyn Melyn: Barrow 19’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Holroyd, Wedgbury, Pearson, Quigley (Wright 30’), Rutherford, Kelly (Mackreth 67’), Roberts, Boden

Cerdyn Melyn: Jennings 25’

.

Torf: 658