Wythnos ar ôl iddo ddatgan pryder am ei ddyfodol mae Gruff Lewis wedi ennill teitl Cymru a chytundeb  gyda  thîm  Ribble Pro Cycling ar gyfer 2018.

Dros y penwythnos wnaeth Gruff Lewis ennill Pencampwriaeth Genedlaethol Traws Seiclo Cymru yn Llangatwg, Powys.

“Roedd ennill y bencampwriaeth yn achlysur  na’i byth anghofio, roedd wedi bod yn nod i fi erioed,” meddai wrth Golwg360.  “Gwnaeth Matt Cronshaw, rheolwr y tîm, fy ffonio a gofyn a oedd gen i ddiddordeb i ymuno a’i dim. Rwyf yn nabod Matt ac roedd ei weledigaeth yn apelio ata’i. Rwyf wedi gweld sut mae’r tîm yn rasio dros y blynyddoedd, a dwi’n sicr bydd cyfle i fi gyflawni fy uchelgeisiau gyda nhw. Mae’n brosiect cyffrous a gallai’m aros i ddechrau.”

Mae Gruff yn y gorffennol wedi rasio gyda thimau UK Youth, Pedal Heaven ac yn  ddiweddar Madison. Mae Ribble Pro Cycling yn paratoi am 2018 ar ôl 2017 llwyddiannus yn ennill wyth teitl cenedlaethol a dros gant o rasys.

Rhan allweddol

Mae perchennog y tîm, Jack Rees, yn egluro: “Roedd Gruff mewn safle anodd gyda thimau seiclo ledled Prydain yn gostwng nifer eu beicwyr neu’n rhoi’r gorau iddi. Yn ffodus, rydan ni mewn safle cryf yn ceisio cyrraedd y nod o statws UCI (Union Cycliste Internationale) erbyn 2019.

“Rydan ni eisiau adeiladu ar lwyddiant 2017 a fydd Gruff yn rhan allweddol o hyn. Roedd yn glir ar ôl siarad â Gruff ei fod yn athletwr angerddol a bydd yn ased amhrisiadwy i’r tîm. Hefyd, roedd yn bwysig i mi fod Gruff a Matt wedi gweithio a’i gilydd yn y gorffennol, a bydd yn wych i ailgysylltu’r berthynas.”