Dai Greene (erikl.nl - Trwydded GNU)
Mae’r Cymro Dai Greene wedi sicrhau ei le yn ffeinal y 400m dros y clwydi ym Mhencampwriaethau’r Byd, Daegu.
Enillodd Greene ei gymal yn hawdd mewn amser o 48.62 eiliad.
Roedd y Cymro’n hyderus ac yn gyfforddus iawn wrth gyrraedd y 100m olaf gan edrych ar y sgrin fawr ac arafu i gyflymder loncian erbyn yr 50m olaf.
Roedd yn berfformiad trawiadol gan Greene, yn enwedig wrth ystyried ei fod wedi curo’r cyn bencampwr byd ac Olympaidd, Felix Sanchez, a oedd yn ail.
Hyder
Roedd y rhedwr yn ymddangos yn hyderus dros ben wrth siarad â Channel 4 yn dilyn y ras.
“Fe es i allan ychydig yn gynt heddiw nac yn y rownd ragbrofol” meddai.
“Dwi’n gwybod fy mod i’n rhedeg yn wych, fe ges i’r amser gorau ddoe.”
“Mae gen i gwpl o ddyddiau i orffwyso nawr cyn edrych ymlaen at y rownd derfynol.”
Rownd derfynol
Fe fydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ddydd Iau.
Y prif fygythiad i Green fydd y gŵr o Puerto Rico, Javier Coulson a enillodd ei gymal ef heddiw mewn amser o 48.52.
Y bygythiad mawr arall yw’r Americanwr, Bershawn Jackson a enillodd ei ras yntau mewn 48.81.