Mark Cavendish
Y gwibiwr o Ynys Manaw, Mark Cavendish oedd y cyntaf dros y llinell yn yr unfed cymal ar ddeg o’r Tour de France heddiw.

Dyma’r deunawfed cymal iddo’i ennill yn y Tour ac mae bellach yn gwisgo’r crys gwyrdd am y beiciwr sy’n casglu’r nifer uchaf o bwyntiau.

Roedd yn rhaid i Cavendish setlo am yr ail safle ddoe ar ôl iddo golli i André Greipel, a’r un beicwyr oedd y ddau gyntaf dros y llinell heddiw, ond mai’r Prydeiniwr oedd yn gyntaf yn Lavaur.

Cymro’n saff

Gorffennodd y Cymry Geraint Thomas yn saff yn bedwerydd ar hugain ac yng nghanol y Peloton gyda’r un amser â Cavendish.

Er hynny, mae wedi llwyddo i godi un safle i rif 31 yn y ras.

Thomas Voeckler o Team Europcar sy’n dal i arwain y ras – mae Thomas 5 munud a 51 eiliad tu ôl i’r arweinydd.