Andy Powell
Mae Jonathan Thomas, Andy Powell a Richie Rees wedi eu hepgor o weddill ymarferion carfan ryngwladol rygbi Cymru yng Ngwlad Pwyl.
Ni fydd yr un o’r tri yn teithio gyda gweddill y garfan ar ddydd Sadwrn ar gyfer 10 diwrnod olaf y garfan yng ngwersyll ymarfer y garfan yn Spala.
Ar hyn o bryd, mae’n aneglur os fyddent yn cael eu hystyried ar gyfer carfannau gemau cyfeillgar yr haf, ac os fydd unrhyw le iddynt yng nghynlluniau Warren Gatland cyn Cwpan y Byd yn Seland Newydd yn yr Hydref.
Bydd Ken Owens, Lou Reed ac Andrew Bishop hefyd yn cael eu gadael ar ôl. Ond fe fydd y maswr, Stephen Jones, yn teithio wedi iddo fethu’r gwersyll cyntaf i gael bod adref ar gyfer genedigaeth ei blentyn cyntaf.
Detholwyd carfan gychwynnol o 45 o chwaraewyr, ond mae’r hyfforddwr wedi penderfynu cyfyngu ar y niferoedd cyn yr ail gyfnod. Dim ond 35 chwaraewr fydd yn dychwelyd yr ail dro.
Anafiadau
Mae’n bosib y bydd y penderfyniad i adael Jonathan Thomas allan yn peri syndod i rai, o ystyried ei fod wedi bod yn rhan ganolog o dîm Cymru yn ddiweddar.
Chwaraeodd ym mhob gornest ond un ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwethaf, ac fe fu ar y cae am bob munud o gemau rhyngwladol yr Hydref yn erbyn Fiji, Awstralia, a De Affrica.
Gwaharddwyd Richie Rees rhag chwarae yng ngemau’r Chwe Gwlad, ac un gêm yn unig (y golled 19-26 yn erbyn Lloegr) mae Andy Powell wedi’i chwarae ers helyntion y ‘golf buggy’.
Mae nifer o anafiadau o fewn y garfan ar hyn o bryd, ond mae’n debyg mai ffêr Leigh Halfpenny fydd yn achosi’r fwyaf o bryder i Gatland.
Ar y llaw arall, mae Gethin Jenkins wedi datgan fod ei droed yn gwella wedi cael llawdriniaeth arno flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n gobeithio cael dychwelyd i’r garfan mewn pryd i chwarae’r gemau cyfeillgar yn erbyn Lloegr (ddwywaith) a’r Ariannin ym mis Awst.
“Mae’n bwysig i’r chwaraewyr roi o’u gorau yng ngwlad Pwyl, er mwyn cystadlu am le yn y garfan,” meddai Jenkins.
“Rydyn ni eisiau bod mor gryf a ffit a phosib, ond hefyd rydym ni’n gwybod nad oes pwynt i hynny os na fyddwn ni’n chwarae rygbi o safon.”