Mae Andrew Selby wedi cael ei goroni’n bencampwr amatur Ewropeaidd cyntaf Cymru ers 86 o flynyddoedd, ar ôl ennill y rownd derfynol yn Nhwrci. 

Curodd y Cymro Georgy Balakshin o Rwsia 13-10 yn rownd derfynol Pencampwriaeth Bocsio Amatur Ewropeaidd yn Ankara. 

Roedd Balakshin wedi ennill y bencampwriaeth dair gwaith cyn yr ornest ddiweddara’, ac wedi ennill medal efydd yng Ngêmau Olympaidd 2008. 

Ond er gwaethaf hynny, bocsiodd Selby yn effeithiol ac ar ôl mynd 3-1 ar y blaen wedi’r rownd gyntaf, fe lwyddodd y Cymro i gynnal ei fantais tan ddiwedd yr ornest. 

Mae Andrew Selby nawr yn gallu ychwanegu’r fedal aur at y ddwy efydd mae eisoes wedi eu hennill yn y bencampwriaeth mewn blynyddoedd cynharach. 

“Mae’n teimlo fel breuddwyd i ennill y fedal aur,”  meddai Andrew Selby.  

“Roeddwn i wedi ymarfer yn galed iawn gyda’r tîm ac mae hynny wedi talu ffordd.  Does dim rheswm na allai fynd ymlaen i ennill pencampwriaeth y byd nawr.”