Fe fydd seiclwyr o ar draws y byd yn dod i Gymru i gystadlu yn un o gymalau Taith Prydain yn hwyrach yn y flwyddyn.
Mae yna wyth cymal i’r gystadleuaeth sy’n digwydd rhwng 11 a 18 Medi ac un o’r rheiny’n dod i Gymru, rhwng y Trallwng a Chaerffili.
Fe fydd y ras yn cynnwys Bannau Brycheiniog a Mynydd Caerffili yn rhan olaf y cymal.
“R’yn ni wrth ein bodd gyda’r newyddion bod y digwyddiad yma’n dod i Gaerffili,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Anthony O’Sullivan.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd yna bobol leol mas ar lwybr y ras er mwyn cael y cyfle i gefnogi rhai o brif athletwyr y byd. Fe fydd tref Caerffili yn fan priodol i orffen y ras”
Cymalau Taith Prydain
- · Cymal Un- Peebles i Dumfries
- · Cymal Dau- Kendal i Blackpool
- · Cymal Tri- Stoke-on-Trent
- · Cymal Pedwar- Y Trallwng i Gaerffili
- · Cymal Pump- Caerwysg i Exmouth
- · Cymal Chwech- Taunton i Wells
- · Cymal Saith- Bury St Edmunds i Sandringham
- · Cymal Wyth- Ras Cylchdaith