Pencampwriaeth Seiclo Cymru 2017 (Llun: Huw Fairclough)
Roedd ardal Llyn Brenig yn llawn cyffro dros y penwythnos oherwydd Pencampwriaeth Beicio Ffordd Cymru.
Dylan Kerfoot-Robson o Lanelwy – aelod o Dîm Wiggins – enillodd y ras, gyda Gruff Lewis (Madison Genesis) yn ail a Dan Evans (Team Elite) yn drydydd.
Yn gynharach eleni, fe enillodd Dylan Kerfoot-Robson ei drydydd teitl Beicio Mynydd Traws Gwlad yn Llanfair-ym-Muallt.
“Rwy’n falch i ennill fy nheitl gyntaf ar y ffordd, yn enwedig ar ffyrdd lle dw i’n ymarfer yng ngogledd Cymru,” meddai Dylan Kerfoot-Robson wrth golwg360.
“Hefyd roeddwn yn ail yn y ras yn erbyn y cloc. Mae wedi bod yn dymor gyntaf da i fi ar y ffordd ac oedd y fuddugoliaeth hon yn ddiweddglo da i’r tymor. Mi fyddaf yn mynd y nôl i ymarfer gyda llygad ar Gemau’r Gymanwlad, mae’r gemau yn gôl fawr i fi blwyddyn nesaf ac maen nhw ond saith mis i fwrdd.
“Am ddiwrnod gwych o rasio mae hi wedi bod,” meddai Dylan Kerfoot-Robson wedyn.
Buddugoliaeth i’r merched
Enillodd Amy Gornall y ras yn erbyn y cloc ddydd Sadwrn, ynghyd â a ras y merched ddydd Sul, ac yn ras y ieuenctid roedd Dan Coombe, Team Backstedt/Hotchillee. yn gyntaf gyda James Tillett; roedd Giant Cycling Club – Halo Film yn ail; a Brecon Burnett: Cardiff Ajax CC yn drydydd.