Aled Siôn Davies (Llun: PA)
Mae Aled Siôn Davies wedi ennill medal aur yn y ddisgen yng nghategori F42 ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Llundain.

Fe daflodd e’r ddisgen 51.54 metr – sy’n record yn y Pencampwriaethau.

Tom Habscheid o Lwcsembwrg gipiodd y fedal arian gyda thafliad o 46.83 metr, a Dechko Ovcharov aeth â’r fedal efydd gyda thafliad o 39.22 metr.

Medalau di-ri

Mae’r Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr bellach wedi bod yn bencampwr byd bump o weithiau, ar ôl ennill y fedal aur yn y ddisgen a’r siot ym Mhencampwriaethau’r Byd dair gwaith yn olynol.

Roedd e’n bencampwr Olympaidd yn Llundain yn 2012, ond doedd y ddisgen ddim ar raglen Gemau Olympaidd Rio de Janeiro y llynedd.

Ond fe gipiodd y fedal aur yn y siot.