Hollie Arnold (Llun: Victoria Jones/PA Wire)
Enillodd Hollie Arnold o Gaerdydd fedal aur, gan dorri ei record byd ei hun, wrth daflu gwaywffon yng nghategori F46 ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Llundain neithiwr.

Llwyddodd yr athletwraig, sy’n wreiddiol o Grimsby ond sy’n byw yng Nghaerdydd, i amddiffyn ei theitl ei hun gyda chyfres o dafliadau sylweddol, gan gynnwys un o 43.02 metr, un centimetr yn fwy na’i record flaenorol.

Mae hi wedi ennill teitl y byd dair gwaith yn olynol.

Dywedodd hi ar ôl y gystadleuaeth ei bod hi’n “teimlo’n anhygoel”.

Medalau i Brydain

Roedd Hollie Arnold yn un o bump o gystadleuwyr o wledydd Prydain a lwyddodd i ennill medal aur neithiwr.

Hannah Cockroft oedd y gyntaf nos Wener yn y ras 100 metr yng nghategori T34.

Ddydd Sadwrn, roedd medalau aur i Stef Reid (y naid hir, T44), Richard Whitehead (200 metr, T42), Sophie Hahn (200 metr, T38) a Sammy Kinghorn (200 metr, T53).