Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi colli’r cyfle i ennill y Gamp Lawn ar ôl cael eu trechu gan y Sheffield Steelers o 6-5 yn ystod yr ail gyfnod ychwanegol yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Nottingham.

Roedd y Devils yn mynd am y Gamp Lawn ar ôl ennill y Gwpan Her, Cyngres Erhardt a’r Gynghrair Elit y tymor hwn.

Roedd y Cymry ar y blaen ar ddiwedd y cyfnod cyntaf yn dilyn goliau gan Guillaume Doucet, Joey Haddad a Joey Martin, ond y Steelers gafodd y gôl gyntaf un drwy John Armstrong.

Sgoriodd y Saeson bedair gôl drwy Geoff Walker ddwywaith, Colton Fretter a Nelson.

Gyda’r sgôr yn 5-4, daeth y Devils yn gyfartal unwaith eto drwy Andrew Hotham i fynd â’r gêm i gyfnod ychwanegol.

Nelson gafodd y gôl fuddugol yn y pen draw i achosi torcalon i’r Devils ar ddiwedd tymor hynod lwyddiannus.