Anwen Butten, chwith, gyda Kathy Pearce ac Emma Woodcock, triawd bowlio merched Cymru yn Seland Newydd
Mae pump o ferched o Gymru yn creu argraff ar lwyfan byd, a hynny ar y lawnt fowlio.

Fe fu tîm Cymru yn cystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Seland Newydd fis diwetha’. Yn ystod pythefnos o gystadlu, fe fu’r crysau cochion yn chwarae yn erbyn gwledydd gorau’r byd, lle’r oedd pob tim wedi gorfod ennill yr hawl i gymryd rhan yn y gemau.

Roedd tim Cymru wedi gorfod gorffen yn y deg uchaf yng Nghemau’r Iwerydd yng Nghyprus ym mis Rhagfyr 2015.

Yn cynrychioli Cymru, roedd Laura Daniels o Frynhyfryd yn chwarae gemau unigol a pharau; Jess Sims o Landrindod ar y parau a’r tim o bedair; Emma Woodcock o Gaerdydd ar y triawadau a’r pedwarawdau; Kathy Pearce o Berriw ar y triawdau a’r pedwarawdau; ac Anwen Butten o Lanbedr Pont Steffan ar y triawdau a’r pedwarawdau.

“Yn y gemau unigol oedd gan Laura grŵp anodd ac fe orffennodd yn gydradd bedwerydd,” meddai Anwen Butten wrth golwg360. “Yn y pedwarau fe aethon ni trwyddo i chwarae yn y chwech olaf, ond yn anffodus colli yn erbyn y Ffilipinas a aeth yn eu blaenau i ennill y fedal efydd. Mi orffennon ni’n bumed allan o ugain gwlad.

Yn ystod yr ail wythnos, fe wnaeth y triawdau chwarae ac ennill yn erbyn Simbabwe, Canada, Brunei, Iwerddon, America, yr Alban ac Ynys Manaw… cyn colli yn erbyn Ffiji ac Awstralia.

Chwarae Lloegr, ac ennill!

Ymhlith y gemau mwya’ cofiadwy i Anwen Butten a thim Cymru yn Seland Newydd ym mis Rhagfyr, y mae’r un yn erbyn Lloegr – y gêm enillon nhw er mwyn mynd yn eu blaenau i wynebu Malaysia… ac ennill eto!

“Yn y rownd derfynol chwaraeon ni yn erbyn Awstralia, ac yn anffodus wnaethon ni golli ar ôl gem dda. Ond oedd y tair ohonon ni yn falch ac yn falch ofnadwy i fod yn dod yn ôl i Gymru gyda medal arian.”

Wnaeth y parau hefyd yn dda ofnadwy, ennill yn erbyn China, Iwerddon, Sbaen, Malaysia, Hong Kong, De Affrica, yr Alban ac Ynysoeddd Cook, a cholli yn erbyn Ynys Norfolk, un o ynysoedd y Mor Tawel.

“Fe orffennon ni ar ben y tabl a mynd ymlaen i chwarae’r Alban yn y rownd gyn-derfynol ac ennill,” meddai Anwen Butten. “Fe aethon yn ymlaen i’r rownd derfynol ac ar ôl gêm agos curo Seland Newydd ar ei tomen eu hunain i orffen yn bencampwyr y byd!”

“Fel tîm o bump o Gymru wnaethon y gorau i ni wedi neud erioed yn y pencampwriaethau hyn,  ac ar y tabl terfynol fe orffennon ni yn ail yn y byd. Mae hyn yn arbennig iawn ac r’yn ni’n falch ofnadwy o’n perfformiadau allan yn Seland Newydd.

“Er mwyn mynd i lawr yno, mae rhaid i ni newid tipyn am y ffordd i ni yn bowlio oherwydd gwahanol ffactorau fel y cyflymder y bowls ar y lawnt, y gwynt yn amharu ar y bowls ac ati… Felly, i ymdopi gyda na ac i orffen gyda medal aur ac arian ac ail yn y tabl terfynol, mae hyn yn arbennig.

“Hefyd, ar lefel personol, hwn yw’r pedwerydd pencampwriaethau’r byd i mi gystadlu ynddyn nhw, ac rwy’n falch ofnadwy fy mod wedi dod adre’ bob tro gyda medal.

“Rwy’n credu yn sicr fod tim merched bowlio wedi rhoi Cymru ar y map!”

 Gwledydd bowlio’r byd, yn eu trefn 

1. Awstralia

2. Cymru

3. Seland Newydd

4. Yr  Alban

5. Malaysia

6. Lloegr