Mae’r cyn-ddyfarnwr bocsio Wynford Jones wedi dweud wrth Golwg360 fod cwestiynau i’w hateb yn dilyn marwolaeth y bocsiwr Mike Towell yn dilyn gornest ddiwedd yr wythnos diwethaf.
Bu farw Towell yn yr ysbyty ddydd Gwener yn dilyn gornest â’r Cymro Dale Evans yn yr Alban nos Iau.
Dywedodd ei bartner ei fod e wedi bod yn dioddef o bennau tost yn ystod yr wythnos – rhywbeth y mae Wynford Jones yn credu sy’n anodd i’w guddio oddi wrth yr awdurdodau.
Dywedodd wrth Golwg360: “Mae e mor anffodus fod rhywbeth fel hyn yn digwydd yn y byd bocsio. Mae’r gamp yn un galed iawn, mae’n anfaddeugar.
“Ond mae angen ateb cwestiynau. Clywes i sôn fod Mike yn diodde o migraine dros yr wythnos. Does dim posib cuddio rhywbeth fel’na o’r meddygon yn ystod medical.”
Ychwanegodd fod pwysau Towell wedi amrywio’n ormodol cyn yr ornest, ac y dylid fod wedi ymateb i’r sefyllfa honno ar y pryd hefyd.
“Darllenais i yn y Times fod e ddau bwys a chwarter dros y pwysau ac awr yn hwyrach, daeth e fewn un pwys o dan 10 stôn 7. Mae colli pwysau fel’na yn golygu bod rhywbeth wedi mynd ymlaen.
“Mae eisiau atebion o’r rheolwr a’r hyfforddwr ynghylch y sefyllfa. Pan mae damweiniau’n digwydd yn y sgwâr, y bocsiwr sy’n cael y bai.”
Ychwanegodd na ddylai’r ornest fod wedi cael ei chynnal yn sgil y pennau tost yn y lle cyntaf.
“O’dd problem yn y cefndir fynna. Mae’n bosib fod rhywbeth wedi digwydd tra ei fod e’n paratoi.”