Y Farwnes Tanni Grey-Thompson Llun: Llywodraeth Cymru
Mae’r bencampwraig Baralympaidd sy’n wreiddiol o Gaerdydd, Tanni Grey-Thompson, wedi cefnogi cynlluniau i gynnal profion ffitrwydd cyson ar blant mewn ysgolion yn Lloegr.

Bwriad y cynllun My Personal Best gan sefydliadau fel Ukactive a Premier Sport yw mesur lefelau ffitrwydd plant mewn ysgolion pedair gwaith y flwyddyn.

Ond, mae swyddogion y sefydliadau wedi awgrymu y bydden nhw’n awyddus i weld ysgolion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn mabwysiadu’r cynllun hefyd.

Profion ffitrwydd, rhifedd a llythrennedd…

Un sy’n cefnogi’r cynllun ydy Tanni Grey-Thompson sydd ar fwrdd Ukactive a dywed: “Rydyn ni’n gwybod fod ein hieuenctid heddiw ymysg y genhedlaeth leiaf heini erioed, felly mae’n hanfodol ein bod yn dwysau ymdrechion i sicrhau lleiafswm o awr o weithgarwch ymarferol i’w trefn ddyddiol.”

“Yn ganolog i hyn, dylai cynlluniau gael eu cyflwyno ar gyfer mesur ffitrwydd ymysg plant ysgolion cynradd mewn ffordd sy’n hwyl ac yn fwynhad i’r plant,” meddai.

Yn ogystal, mae’r nofiwr Olympaidd Duncan Goodhew wedi cefnogi’r galwadau gan ddweud y dylai profion ffitrwydd fod â’r un flaenoriaeth a phrofion rhifedd a llythrennedd.