Ryan Lochte - tudalen flaen ei wefan swyddogol
Mae’r nofiwr Olympaidd, Ryan Lochte, wedi’i wahardd rhag cystadlu tan fis Mehefin y flwyddyn nesa’, ac fe fydd yn colli allan ar werth $100,000 (£75,000) o daliadau bonws a fyddai wedi dod i’w ran o ganlyniad i ennill medal aur yn Rio.
Mae hyn i gyd yn rhan o’r gosb am gambihafio’n feddw mewn garej betrol ym Mrasil yn ystod Gemau Olympaidd y mis diwetha’.
Mae Ryan Lochte wedi cytuno i’r gwaharddiad, sy’n golygu na fydd yn cael cymryd rhan ym Mhencampwriaethau’r Byd 2017.
Mae nofwyr eraill, a oedd gyda Ryan Lochte yn y garej betrol, wedi cael eu gwahardd hefyd. Mae Gunnar Bentz, Jack Conger a Jimmy Feigen, ill tri, wedi’u gwahardd am bedwar mis, tan Ragfyr 31.