Bydd Hannah Mills yn cael ail gyfle ddydd Iau i gipio’r fedal aur ar ôl i’w ras hwylio hi a’i phartner Saskia Clark gael ei gohirio ddydd Mercher oherwydd diffyg gwynt.

Croesi’r llinell derfyn yn unig yw’r nod i’r ddeuawd, sydd â mantais o 20 pwynt yn y gystadleuaeth ym Marina da Gloria.

Maen nhw wedi ennill tair ras ar y ffordd, ac wedi gorffen ymhlith yr wyth uchaf ym mhob un ras.

Y disgwyl yw y bydd eu ras yn dechrau am 5.05yp brynhawn heddiw.