Mae Becky James wedi ennill medal arian yn y ras keirin ar ei beic yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro.
Gorffennodd y Gymraes y ras mewn 11.25 eiliad.
Roedd ei chariad, y chwaraewr rygbi George North yn y dorf i’w llongyfarch ar ddiwedd y ras – ac aelod o’r teulu yn gwisgo crys Cowbois yn dwyn y neges ‘Pob Lwc Becky’.
Dywedodd un o fawrion seiclo Prydain, Vicky Pendleton bod perfformiad y Gymraes yn “anghygoel”.
Dywedodd James ar ddiwedd y ras: “Alla i ddim credu bod hynny wedi digwydd. Dw i wrth fy modd gyda’r keirin.
“Ro’n i yn y cefn yn meddwl ‘Pryd ydw i’n mynd?’. Ro’n i mor gyflym yn yr ail hanner – dwi ddim yn gwybod o le ddaeth hynny.”