Mae’n ddiwrnod prysur unwaith eto i’r Cymry sy’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro ddydd Sadwrn.
Yn dilyn llwyddiant Owain Doull neithiwr, mae saith o Gymry’n anelu ei efelychu ei gamp yn eu hamryw ddisgyblaethau.
Becky James – rowndiau rhagbrofol y Keirin, 2 o’r gloch
Becky James fydd y Gymraes gyntaf i gystadlu, wrth iddi rasio yn rowndiau rhagbrofol y keirin ar ei beic am 2 o’r gloch.
Enillodd hi’r fedal efydd ym Mhencampwriaethau’r Byd eleni.
Yn 2013, 2014 a 2016 enillodd hi’r fedal efydd yn erbyn y cloc fel unigolyn ac fel rhan o dîm Prydain, a hi yw’r pumed ffefryn i ennill y fedal aur.
Hi hefyd oedd y Prydeiniwr cyntaf i ennill pedair medal ym Mhencampwriaethau’r Byd, a hynny ym Minsk yn 2013.
Pe bai hi’n llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol, byddai hi’n cystadlu unwaith eto nos Sadwrn am 9.27
Seren Bundy-Davies – rowndiau rhagbrofol y ras 400 metr, 3 o’r gloch
Yn enedigol o Fanceinion, Seren Bundy-Davies yw un o’r ffefrynnau i sicrhau medal ymhlith y Cymry, a hynny yn y ras 400 metr.
Hi yw’r unig athletwraig o Gymru yn nhîm Prydain ar y trac neu yn y maes.
Ond mae’r arbenigwyr yn darogan bod ei chyfle gorau am fedal pan fydd hi’n cystadlu yn nhîm y ras gyfnewid 4×400 metr. Pe bai hynny’n digwydd, hi fyddai’r athletwr cyntaf o Gymru i ennill medal yn y Gemau Olympaidd ers Iwan Thomas a Jamie Baulch yn Atlanta yn 1996.
Elinor Barker – Rownd gynta’r ymlid beics, 3.17yp
Roedd Elinor Barker yn aelod o dîm Prydain a enillodd Bencampwriaeth y Byd a Phencampwriaethau Ewrop yn 2013 a 2014.
Roedd hi’n ail ar bwyntiau yn y gamp hon yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014.
Mae Prydain yn ceisio amddiffyn y teitl wnaethon nhw ei ennill yn Llundain bedair blynedd yn ôl, pan wnaethon nhw dorri record y byd, ond yr Unol Daleithiau yw’r ffefrynnau am y fedal aur y tro hwn.
Bydd ffeinal y gystadleuaeth hon am 8.53 nos Sadwrn
Chloe Tutton / Georgia Davies – 4×100 metr, 2.49yb
Chloe Tutton yw pencampwraig Ewrop yn y 100 metr dull y frest, a gwnaeth hi ymddangos ar y llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014.
Hi hefyd yw pencampwraig Prydain yn y 200 metr dull y frest, gan dorri’r record am yr amser gorau ym Mhrydain.
Er nad oedd hi wedi cyrraedd yr amser oedd ei angen ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio, cafodd hi ei dewis ar sail ei pherfformiadau beth bynnag.
Y 100 metr dull y cefn yw camp Georgia Davies, a daeth hi’n ail yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, ac enillodd hi fedal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop yr un flwyddyn.
Mae hi’n cystadlu yn y 100 metr gan nad yw ei hoff gamp – y 50 metr – wedi’i chynnwys ymhlith y campau Olympaidd yn Rio.