Shaun MacDonald yn ei ddyddiau fel un o chwaraewyr Abertawe
Mae Wigan wedi arwyddo chwaraewr canol cae Cymru, Shaun MacDonald o Bournemouth.

Mae MacDonald, gynt o Abertawe, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd.

Dywedodd rheolwr Wigan, Gary Caldwell y byddai’n “ychwanegiad o safon” i’r garfan.

Daw MacDonald i mewn ddiwrnod yn unig ar ôl i Wigan werthu Emyr Huws i Gaerdydd.