Bydd y Cymro Geraint Thomas yn cymryd rhan yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro heddiw.
Daw ei gyfle ar ôl i nifer o gystadleuwyr o wledydd eraill dynnu’n ôl yn dilyn anafiadau yn y ras ffordd ddydd Sadwrn.
Bydd Chris Froome hefyd yn cymryd rhan yn y ras.
Dim ond un lle oedd gan Brydain ar y dechrau, ond fe ddywedodd Thomas ei fod yn “edrych ymlaen” ar ôl cael cyfle annisgwyl i gystadlu.
Fydd Richie Porte o Awstralia na Vincenzo Nibali o’r Eidal ddim yn cymryd rhan.
Froome bellach yw un o’r ffefrynnau i ennill y ras, fydd yn digwydd dros bellter o 54.5km, a’r cwrs yn cynnwys llethrau’r Grumari.