Y paffiwr o Gaerdydd - Joseph Cordina
Mae bocsiwr o Gaerdydd allan o Gemau Olympaidd Rio, wedi iddo golli ei ornest yn erbyn paffiwr o Wsbecistan.
Fe gafodd Joseph Cordina, sy’n rhif 8 ar restr detholion y byd, ei drechu gan Hurshid Tojibaev yn rownd y 16 ola’ yn Rio de Janeiro.
Mae Joseph Cordina, 24, yn perthyn i’r un stabl hyfforddi yng Nghasnewydd â phencampwr pwysau plu y byd, Lee Selby, a gipiodd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012; a Fred Evans, seren pwysau welter y byd ac enillydd medal arian arall yn 2012.