Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas, y seiclwr byd enwog o Gaerdydd, wedi dweud bod problem gyffredinol gydag anghydraddoldeb mewn seiclo a bod angen mynd i’r afael a’r mater.
Gwnaeth ei sylwadau ar ôl i gyfarwyddwr technegol tîm seiclo Prydain, Shane Sutton, ymddiswyddo ddoe yn dilyn honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau sarhaus am aelodau benywaidd y tîm ac am bara-seiclwyr.
Ond ychwanegodd Geraint Thomas bod Shane Sutton wedi gwneud mwy na’r rhan fwyaf i dîm seiclo’r DU.
Cyhuddiadau
Mae’r seiclwraig Jess Varnish wedi cyhuddo Shane Sutton o ragfarn ar sail rhyw, gan honni ei fod wedi dweud wrthi am “fynd i gael babi” ar ôl i’w chytundeb â’r sefydliad ddod i ben.
Mae’r cyn-seiclwraig, Victoria Pendleton, un o’r goreuon ym myd seiclo Prydain, oedd yn bartner sbrint i Jess Varnish yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, wedi cefnogi ei honiadau.
Yn dilyn hynny, daeth adroddiad damniol yn y Daily Mail yn ei gyhuddo o wneud sylwadau sarhaus am seiclwyr Paralympaidd.
Dywedodd datganiad gan Beicio Prydain fod Shane Sutton wedi’i “wahardd wrth i ymchwiliad mewnol i honiadau o wahaniaethu a wnaed yn y wasg” gael ei gynnal. Yn ddiweddarach fe gyhoeddwyd bod Sutton, 58, wedi ymddiswyddo.
‘Dim lle o gwbl i anghydraddoldeb mewn chwaraeon’
Dywedodd Geraint Thomas mewn datganiad: “Mewn cysylltiad â digwyddiadau diweddar, hoffwn ddweud nad oes unrhyw le i anghydraddoldeb mewn chwaraeon ac mae’r cyhuddiadau diweddar a wnaed yn erbyn Beicio Prydain angen cael eu trin o ddifrif.
“Fodd bynnag, hoffwn i siarad o fy mhrofiad personol a dweud bod Shane yn un o’r prif resymau yr wyf i ble’r ydw i heddiw. Mae wastad wedi bod eisiau’r gorau i feicwyr Prydain a wastad yn mynd y filltir ychwanegol i ni. Mae e wedi gwneud mwy na’r rhan fwyaf i dîm seiclo’r DU.
“Ni fydd y ddadl am anghydraddoldeb yn gorffen gydag ymddiswyddiad/ymchwiliad Shane. Mae problem gyffredinol gydag anghydraddoldeb mewn seiclo sydd angen mynd i’r afael ag o.”