Y Cymro'n anelu am fuddugoliaeth yn De Ronde
Mae’r Cymro Geraint Thomas yn barod i frwydro am fuddugoliaeth i Team Sky pan fydd yn cystadlu yn ras Ronde van Vlaanderen – neu’r De Ronde – yng Ngwlad Belg ddydd Sul.
Fe fu Thomas yn paratoi ar gyfer y ras ers iddo adael y Volta a Catalunya yn gynnar, ac yntau eisoes wedi sicrhau buddugoliaethau yn y Paris-Nice a’r Volta ao Algarve.
Hon fydd yr unig ras ar gerrig y bydd y Cymro’n cystadlu ynddi eleni.
Gorffennodd yn 14eg y llynedd.
Mae’r Cymro arall Luke Rowe wedi’i gynnwys yn y garfan, ynghyd ag Ian Stannard a Michal Kwiatkowski.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd cyfarwyddwr chwaraeon Sky, Servais Knaven y byddai’r tîm yn “ffôl” i beidio â chynnwys Thomas yn y garfan.
“Ei brif nod yw bod ar ei orau ar gyfer y Tour [de France]. Ac yntau’n ddringwr da… yn ei sefyllfa fe, os yw e am wneud Fflandrys, bydden ni’n ffôl i beidio â mynd ag e yno.”
Hefyd yn y garfan mae Michal Golas, Christian Knees, Gianni Moscon a Salvatore Puccio.