Collodd Devils Caerdydd o 2-1 yn erbyn Coventry Blaze yn eu gêm olaf erioed yn y Babell Fawr Las nos Sadwrn.
Mae’r Cymry ar fin symud i gartref newydd sbon ym Mae Caerdydd.
Noson o golli cyfleoedd oedd hi i’r Devils wrth iddyn nhw fethu gyda saith ymdrech.
Aeth y Devils ar y blaen drwy Joey Martin wedi bron i wyth munud o’r cyfnod cyntaf, ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl yn yr ail gyfnod drwy law Chris Bruton, funud a hanner cyn diwedd y cyfnod.
Daeth tri chyfle i’r Cymry sicrhau’r fuddugoliaeth yn y trydydd cyfnod, ac fe fanteisiodd yr ymwelwyr ar wendid y Devils wrth i Jordan Pietrus ddarganfod y rhwyd.
Er i’r ymwelwyr golli dau chwaraewr yn y munudau clo, llwyddon nhw i ddal eu gafael ar y gêm a sicrhau’r pwyntiau wrth i gôl-warchodwr y Blaze, Brian Stewart gael ei enwi’n seren y gêm.
Bydd y Devils yn chwarae eu gêm gyntaf yn eu cartref newydd ar Fawrth 12, wrth iddyn nhw groesawu’r Belfast Giants i’r brifddinas.