Yn dilyn eu llwyddiant yn y gwpan ganol yr wythnos, roedd buddugoliaeth arall i Devils Caerdydd gartref yn y gynghrair nos Sadwrn, wrth iddyn nhw drechu Belfast Giants o 5-3.

Roedd y Devils ar ei hôl hi o fewn tair munud, wrth i Chris Higgins sgorio i’r ymwelwyr.

Tair munud arall gymerodd hi i’r Devils unioni’r sgôr wrth i’r chwaraewr newydd Ryan Russell sgorio yn ei gêm gyntaf.

Aeth y Devils ar y blaen o fewn munudau drwy Chris Hudson, ac roedden nhw ymhellach ar y blaen o fewn chwarter awr wrth i Joey Martin ddarganfod cefn y rhwyd.

Tarodd y Giants yn ôl ar ddechrau’r ail gyfnod wrth i Higgins rwydo am yr ail waith, ac roedd hi’n gyfartal wrth i Mike Wilson sgorio trydedd gôl yr ymwelwyr.

Aeth y Devils ar y blaen unwaith eto drwy Chris Culligan wedi 12 o funudau ac roedd y tyndra i’w deimlo tan y funud olaf, pan rwydodd Guillaume Doucet i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Devils.

Bydd y Devils yn herio Sheffield Steel yng Nghaerdydd am 6 o’r gloch nos Sul.