Aberystwyth 1–2 Y Drenewydd
Sicrhaodd y Drenewydd eu lle yn hanner uchaf Uwch Gynghrair Cymru ar y toriad diolch i fuddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Aberystwyth ar Goedlan y Parc nos Sadwrn.
Roedd ffawd yr ymwelwyr yn nwylo eu hunain ar ddechrau’r gêm a doedd fawr o amheuaeth am y canlyniad mewn gwirionedd wedi i ddwy gôl gynnar setlo’r nerfau.
Dechreuodd y Drenewydd ar dân ac roeddynt ar y blaen wedi dim ond tri munud diolch i Neil Mitchell. Chwaraeodd Matty Owen bêl dda i’w lwybr o’r asgell chwith a chadwodd Mitchell ei ben i orffen yn daclus wrth guro Mike Lewis ar ei bostyn agosaf.
Dyblwyd y fantais yn dilyn llanast amddiffynnol wedi deg munud, Sean Evans yn rhwydo o groesiad Luke Boundford yn dilyn camgymeriad Lee Surman yng nghanol yr amddiffyn.
Cafodd Boundford ei hun gyfle i ychwanegu trydedd yn fuan wedyn ond saethodd dros y trawst.
Siomedig iawn oedd Aber yn yr hanner awr cyntaf ond daethant fwyfwy i’r gêm wrth i’r egwyl agosáu. Cafodd Rhys Griffiths gyfle gwych i dynnu un yn ôl gyda gweithred olaf yr hanner ond peniodd yn syth at David Jones yn y gôl o gic rydd Craig Williams.
Parhau a wnaeth adfywiad Aberystwyth ar ddechrau’r ail hanner ac roeddynt wedi haneru mantais y Drenewydd wedi deg munud. Gwyrodd cic rydd hir oddi ar ben glin Jason Oswell i lwybr Chris Venables yn y cwrt chwech a gwnaeth yntau’r gweddill.
Cafodd Boundford gyfle gwych i adfer y ddwy gôl o fantais toc wedi’r awr ond peniodd ar draws ceg y gôl pan ddylai fod wedi sgorio.
Diflannodd unrhyw obaith oedd gan Aberystwyth o fewn un munud tuag at ddiwedd y gêm pan yr anfonwyd dau o’u chwaraewyr oddi ar y cae. Gyda chwe munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ôl, derbyniodd Luke Sherbon a Venables ail gerdyn melyn yr un o fewn eiliadau i’w gilydd.
Doedd dim gobaith i’r tîm cartref wedi hynny a daliodd y Drenewydd eu gafael ar y fuddugoliaeth i sicrhau eu lle yn y chwech uchaf.
Cei Connah fydd yn ymuno â’r Robiniaid yn yr hanner uchaf yn ail hanner y tymor wedi iddynt hwythau drechu’r Seintiau Newydd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.
.
Aberystwyth
Tîm: Lewis, James, Jones, Surman, Williams, Corbisiero, Evans, Venables, Sherbon, Davies (Jaques 88’), Griffiths
Gôl: Venables 55’
Cardiau Melyn: Sherbon 76’, 90’ Venables 87’ 90’
Cardiau Coch: Sherbon 90’, Venables 90’
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Mills-Evans, Cadwallader, Edwards, Owen, Goodwin (Cook 60’), Boundford, Mitchell (Tolley 88’), Evans (Harris 90’), Oswell
Goliau: Mitchell 3’, Evans 11’
Cardiau Melyn: Williams 37’, Evans 68’
.
Torf: 371