Mae Mike Davies, yr unig Gymro i gyrraedd rownd derfynol Wimbledon, wedi marw’n 79 oed.

Yn enedigol o Abertawe, fe ddysgodd Davies ei grefft ym Mharc Cwmdonkin ac fe gafodd ei sgiliau eu darganfod a’u cydnabod gan y seren fyd-enwog Fred Perry yn ystod cystadleuaeth.

Fe gyrhaeddodd safle rhif 1 yn netholion Prydain yn ystod y 1950au ac fe gafodd nifer o lwyddiannau ysgubol yn y Davis Cup yn ystod y degawd.

Ond daeth ei awr fawr pan gyrhaeddodd e a Bobby Wilson rownd derfynol dyblau’r dynion yn Wimbledon, gan golli yn y pen draw yn erbyn Dennis Ralston a Rafael Osuna.

Aeth yn broffesiynol yn y pen draw gan achosi ffrae â’r awdurdodau tenis yn ystod cyfnod pan oedd chwaraewyr yn parhau’n amatur ar y cyfan.

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr, aeth yn gyfarwyddwr gweithredol World Championship Tennis, gan wneud nifer o benderfyniadau arloesol, gan gynnwys cyflwyno peli melyn ac ehangu apêl y gamp ar gyfer y teledu.

Cafodd ei dderbyn i Oriel Enwogion y byd tenis yn 2012.