Mae disgwyl y bydd Abertawe’n rhyddhau’r ymosodwr Michu o’i gytundeb saith mis yn gynnar.

Symudodd y Sbaenwr i’r Liberty o Rayo Vallecano am £2 miliwn yn 2012, ac fe sgoriodd 22 o goliau yn ei dymor cyntaf.

Ymestynodd ei gytundeb ym mis Ionawr 2013 tan 2016.

Ond fe dreuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg yn Napoli lle dioddefodd nifer o anafiadau.

Awgrymodd y clwb ym mis Mai fod ei yrfa yn Abertawe ar ben.

Bellach, mae’r Elyrch yn trafod y posibilrwydd gyda’i gynrychiolwyr o derfynu ei gytundeb.

Mae Michu wedi’i gysylltu erbyn hyn â chlwb Langreo ym mhedwaredd adran Sbaen.