Aaron Ramsey
Mae Chris Coleman wedi ymateb yn ffyrnig ar ôl i reolwr Arsenal Arsene Wenger awgrymu mai Cymru oedd ar fai am anaf diweddaraf Aaron Ramsey.
Roedd rheolwr y tîm cenedlaethol yn enwi ei garfan heddiw ar gyfer gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yr wythnos nesaf, ac wedi gadael Ramsey a Gareth Bale allan oherwydd anafiadau.
Roedd Wenger wedi dweud bod Ramsey wedi anafu llinyn y gâr ar ôl chwarae dwy gêm dros Gymru fis diwethaf, er ei fod wedyn wedi chwarae ddwywaith dros Arsenal ar ôl hynny.
Mae Coleman nawr wedi ymateb yn ffyrnig i’r sylwadau hynny, gan gyhuddo’r Ffrancwr o ddangos diffyg parch at Gymru.
‘Camgymeriad Arsenal’
Mynnodd Coleman nad oedd Wenger wedi cysylltu ag e o gwbl i ofyn iddo beidio â chwarae Ramsey yn y ddwy gêm ym mis Hydref, pan sicrhaodd y tîm cenedlaethol eu lle yn Ewro 2016.
Roedd hynny er bod Wenger wedi gofyn i reolwr Lloegr Roy Hodgson beidio â chwarae Theo Walcott, ac yn ôl Coleman roedd y ffaith na chlywodd gan reolwr Arsenal yn rhoi’r “golau gwyrdd” iddo chwarae Ramsey.
Fe chwaraeodd Ramsey gêm a hanner dros ei glwb wedyn cyn cael yr anaf, ac fe fynnodd Coleman bod hynny’n brawf mai Arsenal ac nid Cymru oedd ar fai.
“Sut mae e’n dod i’r casgliad yna, mai ein cyfrifoldeb ni oedd e, does gen i ddim syniad,” meddai Coleman.
“Felly ddylai e ddim pwyntio’r bys atom ni, mae ein tîm meddygol ni’n wych … ei gamgymeriad e oedd e, nid fi a fy nhîm meddygol.”
‘Diffyg parch’
Wrth wneud ei sylwadau am anaf Ramsey fe gyfeiriodd Arsene Wenger at Gareth Bale, oedd hefyd wedi cael anaf yn chwarae dros Real Madrid ychydig ddyddiau ar ôl dychwelyd o garfan Cymru.
Ond fe awgrymodd Coleman bod sylwadau o’r fath gan reolwr o’r Uwch Gynghrair yn dangos amarch tuag at staff tîm Cymru.
“Fydden i ddim fel arfer yn dod mas a siarad yn gyhoeddus fel hyn, ond dw i’n dangos yr un parch y mae e wedi’i roi i mi, sef fawr ddim,” ychwanegodd Coleman.
“Dw i ddim am eistedd nôl a gadael i rywun ein beio ni pan nad oes bai arnom ni.
“Pam fod e’n gwneud sylwadau am Gareth Bale? Ddywedodd e ddim byd am Hal Robson-Kanu a Reading, ac fe drodd e ei bigwrn [yng ngêm Cymru] yn erbyn Andorra.
“Dydw i heb gael Steve Clarke [rheolwr Reading] yn fy ffonio i’n cwyno am y peth.”