Gydag ymweliad Cyfres y Lludw â Chaerdydd dal yn fyw yn y cof, a’r gyfres wedi symud ymlaen i Lord’s heddiw, mae Golwg360 wedi bod yn twrio yn y cwpwrdd am y bat a’r helmed i ymuno yn yr hwyl.

Draw a’n eitem Tîm yr Wythnos ni i Sir Benfro, felly, i gyfarfod Clwb Criced Crymych a dod i glywed ychydig mwy am helyntion y tîm yn eu cynghrair lleol nhw.

Cafodd y clwb ei sefydlu yn yr 1960au ac maen nhw bellach yn chwarae yn Adran Tri Chynghrair Criced Sir Benfro, gydag ail dîm hefyd yn chwarae yn Adran Chwech.

Mae’r tîm wedi cael tymor digon cymysglyd hyd yn hyn o ran canlyniadau, gyda Chrymych yn y pumed safle allan o ddeg tîm ond yn gobeithio gorffen yn y tri uchaf erbyn diwedd y tymor.

Dydd Sadwrn fe fyddan nhw gartref yn erbyn ail dîm Caeriw, sydd ar frig y gynghrair – a chyn yr ornest fawr fe fuon ni’n sgwrsio ag ysgrifennydd y clwb, Rhodri Lewis.

Croft yn Crymych

Er nad yw Crymych yn gallu brolio llwyth o enwogion criced sydd wedi chwarae i’r clwb mae o leiaf un seren ryngwladol wedi camu i’r cae yn y gorffennol, gyda chyn-gricedwr Morgannwg a Lloegr, Robert Croft, yn chwarae gêm i’r tîm pedair blynedd yn ôl.

Mae’r clwb o ogledd Penfro yn falch o’i thraddodiad Cymreig hefyd, ac fe fu’r ail dîm yn y newyddion ddwy flynedd yn ôl ar ôl cerdded oddi ar y cae yn ystod gêm mewn protest yn erbyn sylwadau gwrth-Gymreig gan gapten Llandyfái.

Yn ôl Rhodri Lewis, sy’n bowlio a batio i’r ail dîm yn ogystal â chwarae rhan gyda’r tîm cyntaf, mae’r garfan yn un glos sydd yn mwynhau cwmni ei gilydd.

“Mae ‘na griw o fechgyn da yma, ac ni yn cael ambell i noson gymdeithasol gyda’n gilydd, er bod ishe mwy arnom ni a dweud y gwir!” meddai Rhodri Lewis.

“Mae 80% o’r garfan yn siarad yr iaith Gymraeg, ac mae sawl cymeriad yn y garfan gan gynnwys Osian Wyn, Marc Thomas, Richard Thorne a Sam Kurtz.

“Richard Thorne sy’n bwrw lot o rediadau, ond dal yn meddwl fod e ddim digon da, ac mae Sam Kurtz yn ffansio’i hun fel bowliwr cyflym/sbin.”

Carfan Crymych v Caeriw II: Andrew Thomas (c), Richard Thorne, Sam Kurtz, Marc Thomas, Dai Jenkins, Tomos Lewis, Alan Luke, Harri Dunn, Harry Jones, Jim Houlden, Osian Wyn, Ioan Davies, Malory Stanford, Dad Wright