Chris Froome o dîm Sky sy’n arwain y Tour de France ar ôl trydydd cymal llawn helynt rhwng Anvers a Mur de Huy.
Gorffennodd arweinydd tîm Sky yn ail i Joaquim Rodriguez ar y dydd, ond roedd hynny’n ddigon da iddo fachu’r crys melyn yn y brif ras.
Gwelwyd y ras yn cael ei hatal ddwywaith oherwydd damweiniau difrifol – roedd yr arweinydd blaenorol, Fabian Cancellara, yn ei chanol hi ac er iddo orffen y cymal bu’n rhaid iddo ymadael a’r ras oherwydd anaf gael i’w gefn.
Mae Froome, sy’n un o’r ffefrynnau, felly’n gwisgo’r crys melyn ynghynt na’r disgwyl gyda mantais o eiliad dros Tony Martin o Etixx – Quick-Step yn yr ail safle.
Mae ganddo 36 eiliad o fantais dros ei brif wrthwynebydd agosaf Alberto Contador, sy’n wythfed, 1:38 dros Vincenzo Nibali a 1:56 dros Nairo Quintana, sef y ddau ffefryn arall.
Llithrodd y Cymro Geraint Thomas i’r nawfed safle ar ôl dechrau’r dydd yn bumed – mae bellach 1:03 tu ôl i’w gydymaith Froom yn y brif ras.
Mae’r Cymro arall yn y ras, Luke Rowe – hefyd o dîm Sky – bellach yn safle 175, 17:05 tu ôl i’r arweinydd.
Mae cymal 4 yn teithio rhwng Seraing a Cambrai gyda saith rhan o’r ras yn digwydd ar y coblau a chyfle o bosib i Geraint Thomas greu argraff.