Y gyrrwr rali Elfyn Evans (llun: Stefan Brending)
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi cyfaddef nad oedd yn disgwyl cipio lle ar y podiwm yn yr Ariannin, wedi iddo orffen yn drydydd yn ras ddiweddaraf Pencampwriaeth Rali’r Byd dros y penwythnos.

Sicrhaodd gyrrwr M-Sport y trydydd safle ar ôl i Jari-Matti Latvala gael problemau gyda’i injan, ac fe orffennodd Kris Meeke o Ogledd Iwerddon yn gyntaf.

Dyma’r tro cyntaf ers 2001 i ddau yrrwr o Brydain orffen ar y podiwm mewn rali byd, pan lwyddodd Colin McRae a Richard Burns i wneud hynny yn Seland Newydd.

Mae’r canlyniad yn codi Elfyn Evans i bedwerydd ym mhencampwriaeth y byd eleni ar ôl pedair o’r 13 ras, ac fe fydd yr un nesaf ym Mhortiwgal ar ddiwedd mis Mai.

“Wnaethon ni ddim dod yma’n disgwyl podiwm, felly mae’n deimlad gwych a dw i ddim cweit wedi cael fy mhen rownd y peth eto!” meddai Elfyn Evans, sydd dim ond yn ei ail dymor ar lefel uchaf y gamp.