Ben Davies yn dod oddi ar y cae dros y penwythnos
Bydd cefnogwyr Cymru yn aros yn bryderus am newyddion ynglŷn â Ben Davies ar ôl i’r cefnwr chwith orfod dod oddi ar y cae ar y penwythnos ar ôl datgymalu ei ysgwydd.
Roedd yn rhaid i Davies gael ocsigen wrth adael y maes yng ngêm gyfartal Spurs a Southampton, a’r wythnos hon mae disgwyl cadarnhad ynglŷn â difrifoldeb yr anaf.
Mae’n bosib iawn y bydd y cefnwr yn methu gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin, a hynny ar ôl iddo chwarae gêm lawn yn y fuddugoliaeth dros Israel mis yn ôl.
Yng ngemau eraill yr Uwch Gynghrair fe fethodd Aaron Ramsey ac Arsenal i gau’r bwlch ar Chelsea ar y brig, gan olygu bod tîm Jose Mourinho bron yn sicr o ennill y gynghrair rŵan.
Yn y frwydr fawr ar y gwaelod fe enillodd Andy King a Chaerlŷr o 1-0 yn erbyn Burnley, oedd heb Sam Vokes oherwydd anaf cyhyrol.
Chwaraeodd James Chester gêm lawn i Hull wrth iddyn nhw gadw llechen lân a churo Crystal Palace 2-0 – lle ar y fainc yn unig oedd i Joe Ledley a Wayne Hennessey.
Enillodd Ashley Williams ac Abertawe 3-2 i ffwrdd yn Newcastle, ac fe lwyddodd West Ham i ddianc o QPR gyda gêm gyfartal 0-0 er i James Collins ildio cic o’r smotyn.
Di-sgôr oedd hi hefyd yn yr Hawthorns, gyda Boaz Myhill yn y gôl i West Brom ond Joe Allen ar y fainc i Lerpwl.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth fe sgoriodd Steve Morison gôl fuddugol Leeds i gipio buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Sheffield Wednesday.
Chwaraeodd David Cotterill, Morgan Fox a Simon Church wrth i Birmingham drechu Charlton 1-0, ac fe gafodd Joel Lynch ac Adam Henley gemau llawn wrth iddi orffen yn 2-2 rhwng Huddersfield a Blackburn.
Yn y gemau eraill fe chwaraeodd Chris Gunter, Hal Robson-Kanu, David Vaughan, Craig Morgan a Dave Edwards.
Yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw ddwy gôl arall i Walsall wrth iddyn nhw ddringo i hanner uchaf y tabl gydag un gêm i fynd, gan gyrraedd cyfanswm personol o 20 gôl y tymor hwn.
Ond siom o’r mwyaf oedd hi i Owain Fôn Williams a Jason Koumas yng Nghynghrair Dau, wrth i Tranmere golli 3-2 yn Plymouth i ddisgyn allan o’r gynghrair.
Seren yr wythnos – James Chester. Nôl yn nhîm Hull ac yn eu helpu i fuddugoliaeth hollbwysig yn y frwydr i aros yn y gynghrair.
Siom yr wythnos – Owain Fôn Williams. Pryder dros anaf Ben Davies, ond does dim gwella Owain Fôn a Tranmere wrth iddyn nhw ddisgyn i’r Gyngres.