Laura Thomas adeg buddugoliaethau cynt
Cymraes yw pencampwraig newydd Bowls Dan Do Menywod y Byd.

Fe enillodd Laura Thomas o Gastell Nedd y teitl yn Great Yarmouth neithiwr gyda buddugoliaeth glir yn erbyn pencampwraig y llynedd.

Fe lwyddodd y cyfrifydd 29 oed i ennill y ddwy set, gan fynd ar y blaen yn gry’ o’r dechrau.

Roedd ennill ar ran Cymru yn “golygu popeth” iddi, meddai, ac roedd ei gwrthwynebydd, Katherine Rednall o Loegr yn cydnabod bod y Gymraes wedi ei rhoi dan bwysau o’r dechrau.