Fe aeth rhai o sêr y campau yng Nghymru ac ambell gyflwynydd teledu benben mewn cyfres o heriau chwaraeon heddiw fel rhan o lansiad cyfres newydd ar S4C.

Bydd Y Clwb ar y teledu am bump awr ar brynhawniau Sul ac yn cynnwys pêl-droed a rygbi byw o Uwch Gynghrair Cymru a’r Pro12, yn ogystal â phigion o gampau eraill.

Fel rhan o’r her ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw fe aeth cyflwynydd y rhaglen, Dylan Ebenezer, ati i geisio’i law ar nifer o chwaraeon.

Yn ymuno ag ef yn yr heriau roedd y pencampwr rali Osian Pryce, y seiclwr Gruff Lewis, chwaraewr rygbi saith bob ochr Cymru Lee Williams, a chyflwynwraig Sgorio Nicky John.

Bu’r pump yn seiclo, ralio a sbrintio yn ogystal â phrofi’u hunain mewn her rygbi a chymryd ciciau o’r smotyn – i gyd o dan lygad barcud y cyflwynydd teledu a dyfarnwr rygbi Owain Gwynedd.

Teilyngdod ar y Maes

Fe orffennodd pethau gyda chwis, ac Osian Pryce yn cael ei goroni’n bencampwr ar ôl dod i’r brig yn y cystadlu.

Ac fe esboniodd Dylan Ebenezer eu bod wedi ceisio cyfleu’r arlwy eang o chwaraeon fydd yn cael eu dangos a’u trafod ar Y Clwb gyda’r heriau amrywiol ar y maes.

“Mae’n neis cael jyst cyflwyno’r rhaglen i bawb rili,” meddai. “Pêl-droed a rygbi fydd y ddau begwn, gemau byw bob prynhawn dydd Sul, ond rydym ni hefyd yn mynd i fod yn canolbwyntio ar y byd rali, beicio … ac ambell i gamp sydd ddim yn cael cymaint o sylw.”

Olaf ond un oedd hanes Dylan Ebenezer yn yr heriau, fodd bynnag.

Cyfaddefodd: “Doeddwn i ddim yn sylwi bydde fe’n gymaint o waith caled!”