Lewis Hamilton (Llun: Gaz Maz)
Mae’r bwlch ar frig Pencampwriaeth y Byd F1 wedi cau unwaith eto rhwng y ddau gar Mercedes, ar ôl i Lewis Hamilton orffen o flaen Nico Rosberg dros y penwythnos.
Fe welwyd ail fuddugoliaeth gyrfa Daniel Ricciardo ac adfywiad i Fernando Alonso yn ras Hwngari ddydd Sul hefyd.
Daeth hynny ar ôl i drafferthion rhagbrawf i Hamilton, a phenwythnos llawn cyffro gyda thân, tywydd newidiol, damweiniau, a rasio agos, agos iawn!
Phil Kynaston sydd yn edrych yn ôl ar ddrama’r penwythnos ar drac lle na ellir pasio … medden nhw!
Damweiniau’r rhagbrawf
Ar drac sydd ddim yn enwog am lawer o oddiweddu, fe wnaeth y rhagbrawf i fyny am hynny a pharatoi ar gyfer ras fyddai’n annog tipyn o basio.
Nid am y tro cyntaf y tymor yma, ni lwyddodd Pastor Maldonado gyrraedd diwedd y sesiwn wrth i’w gar ei adael i lawr. Ddim y ffordd orau i ddathlu ailarwyddo gyda Lotus ar gyfer 2015.
Ond daeth sioc fwyaf Q1 wrth i Hamilton drio hercio ei gar yn ôl i’r pits gyda fflamau yn dod o’r cefn ar ôl gollyngiad tanwydd. Mae Hwngari yn drac cryf iddo, ond byddai’n rhaid gobeithio am wyrth yn y ras i geisio cadw Rosberg mewn golwg yn y bencampwriaeth.
Gyda Max Chilton hefyd yn methu cwblhau’r sesiwn roedd strategwyr Kimi Raikkonen yn ymlacio yn meddwl eu bod eu gyrrwr yn ddiogel. Ond ym munudau olaf y sesiwn fe lwyddodd Jules Bianchi i’w guro, gan olygu y byddai Kimi yn cychwyn yn 17eg.
Roedd Q2 yn gymharol ddistaw, gyda dim ond Daniel Kvyat yn troelli a Sergio Perez yn cael trafferth hydrolig.
Ond ar ddechrau Q3 fe ddaeth y glaw. Ac fel Silverstone, dim ond rhannau o’r cwrs oedd yn wlyb. Fe darodd Kevin Magnussen y wal i ddod a’r fflag goch allan ar ôl iddo gael ei ddal allan gan y tywydd annisgwyl.
Fe wnaeth Rosberg y mwyaf o anffawd ragbrofol ddiweddaraf Hamilton i ddechrau’n gyntaf, o flaen Sebastian Vettel a Valeri Bottas.
Ras wleb
Roedd glaw llai nag awr cyn dechrau’r ras yn siŵr o wneud pethau’n ddiddorol! Ar ôl gorfod newid bron y car cyfan, fe gychwynnodd Hamilton o’r lôn pit.
Un fantais i hynny oedd y dylai’r gyrrwr fod yn cadw allan o unrhyw drafferthion ar y cychwyn gan iddo orfod aros nes bod pawb wedi pasio. Ond fe lwyddodd Hamilton i lithro o’r cwrs ar yr ail gornel ar ben ei hun, a chael a chael oedd hi nad oedd wedi taro’r wal!
Erbyn lap naw roedd Hamilton yn symud drwy’r pac tra bod ei gyd-yrrwr ymhell ar y blaen. Ond gyda’r trac dal yn beryg, fe darodd Marcus Ericsson y wal yn galed.
Fe ruthrodd y rhan fwyaf o’r ceir i’r pit tra bod y car diogelwch yn dod allan. Ond ddim Rosberg. Yn anlwcus iddo fo, roedd o newydd basio’r mynediad pan ddigwyddodd y ddamwain, felly roedd rhaid iddo wneud lap cyfan yn ara’ deg y tu ôl i’r car diogelwch tra bod y gweddill yn cael stop digost. Fe gollodd nifer o safleoedd pan gafodd y cyfle o’r diwedd i bitio.
Mewn penderfyniad diddorol, fe roddodd McLaren deiars canolradd ar gar Jenson Button gan ragweld mwy o law.
I adio at y cynnwrf, fel oedd y cyhoeddiad yn dod bod y car diogelwch am dynnu mewn cafodd Romain Grosjean ddamwain! Roedd hi’n amlwg mor anodd oedd yr amodau bod trawiad yn digwydd ar gyflymder mor isel. Mercedes yn aros ar y blaen felly, ond yr SLS, nid car F1.
Ar ôl pasio Ricciardo roedd Button yn arwain y ras am beth amser, ond fe gollodd nifer o safleoedd wrth bitio am deiars addas i’r tywydd.
Rheol gyntaf F1 – peidiwch â tharo eich cyd-yrrwr. Neb wedi sôn wrth Perez yn amlwg, a hynny’n dod a rhediad Hulkenberg o sgorio ymhob ras yn 2014 i ben. Ni pharodd ras Perez llawer hirach chwaith wrth iddo droelli a tharo’r wal pit concrit yn galed ar lap 23.
Hamilton yn dringo
Roedd Hamilton yn cael ras wych, ac ar strategaeth wahanol i Rosberg roedd o flaen yr Almaenwr erbyn lap 47. Fe ddaeth yr alwad i Hamilton symud drosodd, ond ni ildiodd. Digon teg yn fy marn i gan fod yr Almaenwr eiliad a hanner y tu ôl – ddim digon agos heb i Lewis orfod colli amser gwerthfawr.
Yn debyg i Ganada, gyda dim ond ychydig o lapiau i fynd roedd Ricciardo yn edrych yn gryf yn drydydd gyda llai nag eiliad yn gwahanu ef a Hamilton, ac Alonso yn arwain.
Yn debyg eto i’w fuddugoliaeth gyntaf, fe dynnodd Ricciardo symudiad gwych ar Hamilton ar gyfer yr ail safle cyn mynd ar ôl Alonso. Ni chafodd broblem wrth basio’r Sbaenwr oedd ar deiars hen iawn erbyn hyn, ac fe agorodd bwlch mawr mewn ychydig iawn o amser i ennill ei ail ras yn gyfforddus.
Y tu ôl iddo roedd y cyffro i gyd gydag Alonso (dim ond ei ail bodiwm eleni), Hamilton (ar ôl ras wych eto drwy’r pac, ond yn lanach y tro yma na’r Almaen) a Rosberg o fewn 0.9 eiliad i’w gilydd!
Mae’r canlyniad yma’n cau’r bwlch rhwng y ddau Mercedes, gyda Rosberg yn arwain Hamilton o 11 pwynt. Fe gryfhaodd Ricciardo ei safle fel gorau’r gweddill (ac fel gyrrwr goruchaf Red Bull?), a ras gref Alonso yn rhoi trydydd yn ôl i Ferrari oddi wrth Williams.
Ar ôl ras mor gyffrous mae pedair wythnos nawr i aros tan y ras nesaf, wrth i’r timau gymryd eu hegwyl haf blynyddol cyn dychwelyd yng Ngwlad Belg.