Geraint Thomas
Geraint Thomas yw’r unig feiciwr Prydeinig ar ôl ar y Tour de France wrth i’r ras gymryd hoe heddiw, ar ôl i Simon Yates o dîm Orica GreenEdge dynnu nôl.

Dyw cystadleuaeth eleni ddim wedi bod yn wych i’r Prydeinwyr, gyda Mark Cavendish ac yna Chris Froome yn crasio ac anafu’u hunain yn nyddiau cyntaf y ras cyn gorfod tynnu yn ôl.

Mae tîm Yates nawr wedi cadarnhau na fydd y seiclwr ifanc 21 oed yn cymryd rhan bellach yn y gystadleuaeth, ar ôl cystadlu am y tro cyntaf ac edrych yn addawol iawn ar ambell gymal.

Mae’n gadael y Cymro Geraint Thomas fel yr unig un o’r pedwar Prydeiniwr sydd dal â gobaith o orffen y ras, a ddechreuodd yn Swydd Efrog, wrth iddo barhau i ymdrechu gyda thîm Sky.

Cafodd pennaeth tîm Sky, Dave Brailsford o Ddeiniolen, ei feirniadu gan rai am adael rhai o’i feicwyr Prydeinig gorau allan o’i dîm Tour de France.

Roedd y rhain yn cynnwys Syr Bradley Wiggins, enillydd y Tour yn 2012, a Peter Kennaugh sydd newydd ennill ras Awstria.

Nibali ar y blaen

Dim ond chwe chymal sydd ar ôl bellach o 21 cymal y Tour de France, ac mae’n edrych bron yn sicr mai’r Eidalwr Vincenzo Nibali o dîm Astana fydd yn fuddugol ym Mharis ar ddydd Sul.

Yn ystod y dyddiau diwethaf mae ymgais Richie Porte o Awstralia, arweinydd tîm Sky ar ôl anaf Froome, i geisio cipio’r crys melyn wedi diflannu yn y mynyddoedd er gwaethaf gwaith cefnogol Thomas.

Mae Thomas bellach yn 18fed yn y rhestr yn gyfan gwbl, dros 20 munud y tu ôl i Nibali, gyda Porte yn 15fed â dros 16 munud o fwlch.

Mae Peter Sagan o Slofacia mwy neu lai wedi cipio’r crys gwyrdd, am y beiciwr gyda’r mwyaf o bwyntiau sbrint.

Ar gyfer y crys polca dot ‘brenin y mynyddoedd’ parhau mae’r frwydr rhwng Nibali, Rafal Majka o Wlad Pwyl a Joaquim Rodriguez o Sbaen.

AG2R Mondiale sydd ar frig rhestr y timau, gyda’r Ffrancwyr Romain Bardet a Jean-Christophe Peraud yn arwain y ffordd iddyn nhw.