Mae rhagor o anafiadau wedi taro tîm Cymru ar ôl cadarnhad y bydd y codwr pwysau Faye Pittman a’r ymladdwr jiwdo Kyle Davies yn methu Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow.

Mae Pittman yn gorfod cael triniaeth i’w hysgwydd tra bod Davies ynmethu’r Gemau gydag anaf i’w ben-glin, gyda’r cystadlu’n dechrau ddydd Iau.

Mae’r tîm eisoes wedi gorfod delio ag anafiadau i rai o’u sêr mawr, gan gynnwys y seiclwraig Becky James a’r triathlwyr Non Stanford a Helen Jenkins, y tair ohonyn nhw’n bencampwyr byd.

Yn ogystal â hynny fe fu’n rhaid i’r rhedwr 800m Gareth Warburton dynnu allan o’r Gemau ar ôl methu prawf cyffuriau, er bod yr athletwr yn gwadu cymryd sylwedd yn fwriadol.

Mae’n ergyd pellach i obeithion y tîm o gyrraedd eu targed medalau o 27 ar gyfer y Gemau yn yr Alban eleni, wyth yn fwy nag y llwyddodd y tîm i gipio yn Delhi pedair blynedd yn ôl.

Roedd Faye Pittman yn paratoi i gystadlu yn ei Gemau’r Gymanwlad cyntaf wrth godi pwysau yn y categori 63kg, ar ôl bron a chael ei dewis ar gyfer tîm bobsled Prydain i Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Sochi eleni.

Cyn hynny fe fu’r ddynes 31 oed yn rhagori mewn gymnasteg cyn troi’i sylw at y naid ffon.

Roedd Kyle Davies yn paratoi i gystadlu yng nghategori dan 66kg y jiwdo, ac fe fydd Brandon Dodge yn cymryd ei le.