Cymal Y Waun Rali Cymru GB
Mae’r manylion ar gyfer cymal olaf Pencampwriaeth Rali’r Byd yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng ngogledd Cymru y tymor diwethaf, ac fe ddenodd fwy o wylwyr nag erioed o’r blaen.
Bydd yn cael ei gynnal unwaith eto ym mis Tachwedd dros 23 o gymalau a 191.95 o filltiroedd, gyda dau o’r cymalau’n cael eu cynnal fin nos.
Bydd y penwythnos yn dechrau gyda seremoni agoriadol rhad ac am ddim yn Stadiwm Parc Eirias ym Mae Colwyn ar nos Iau, Tachwedd 13, lle bydd cyfle i gefnogwyr gwrdd â rhai o’r gyrwyr.
Bydd y ras yn dechrau’n swyddogol fore Gwener ger Machynlleth, ac fe fydd cymalau’n teithio i Gartheiniog, Dyfi, Sweet Lamb Hafren a Maesnant.
Bydd y ras yn symud i ardal Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn, lle mae disgwyl i lu o gefnogwyr o Lerpwl, Manceinion a Chanolbarth Cymru ddod i wylio.
Bydd y cymal hwnnw’n cynnwys ardaloedd Aberhirnant a Dyfnant ac wedyn Castell Y Waun lle bydd cymal y RallyFest yn digwydd.
Bydd y rali’n dod i ben ddydd Sul ym Mharc Cinmel ger yr A55, sy’n cynnwys cymalau newydd Alwen a Brenig.
Bydd y ‘power stage’ a allai fod yn dyngedfennol i’r Bencampwriaeth yn cael ei gynnal ger Llyn Brenig.
Mae rhai o ffyrdd Cymru wedi cael eu haddasu er mwyn ymateb i’r tagfeydd sy’n debygol o gael eu hachosi gan y rali.
Bydd y gyrrwr buddugol yn derbyn y tlws ar Stryd Mostyn yn Llandudno ddydd Sul.
Bydd tocynnau ar gael am £99 fydd yn cynnwys mynediad i bob un o’r 23 o gymalau ledled Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rali Cymru GB, Ben Taylor: “Mae Rali Cymru GB yn ras gwirioneddol wych ar galendr pencampwriaeth y byd.
“Rydym yn awyddus iawn i ddatblygu ar lwyddiant y llynedd ac i sicrhau bod cyffro rali eleni yn cyffwrdd cynulleidfa hyd yn oed mwy eang.
“Mae rali 2014 wedi ei threfnu ar gyfer anghenion y cystadleuwyr a’r gwylwyr. Rydym yn credu y bydd yn her dda i’r cystadleuwyr ac yn sioe gwerth chweil i’r gwylwyr.”
“Rydym yn cyfaddef i ni gael ein synnu gan nifer y bobl a ddaeth i wylio’r cymalau’r llynedd; bu blynyddoedd ers i ni wynebu’r fath broblem.
“Hoffwn gadarnhau ein bod wedi dysgu o drafferthion y llynedd a bod cynlluniau priodol ar gyfer trefn eleni. Bydd gennym well rheolaeth ar y niferoedd hefyd, gan fod rhaid prynu tocynnau o flaen llaw eleni.
“Fel yr arfer, cewch fwy o werth ar eich arian wrth brynu Pas Pencampwriaeth y Byd a fydd yn rhoi mynediad i bob un rhan, ond byddwn yn cyfyngu niferoedd y math yma o docynnau.
“Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, mae dau yrrwr o Brydain, Elfyn Evans a Kris Meeke, yn ralïwyr blaengar felly mae’n debygol y bydd hon yn un o’r Ralïau Cymru GB gorau erioed.”
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: “Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad y llynedd.
“Fe ddarparodd y Rali ar ei newydd wedd hwb gwerth miliynau o bunnoedd i’r rhanbarth gan ddenu miloedd o gefnogwyr a gwyliodd 600 miliwn y digwyddiad ar y teledu ledled y byd.
“Rwy’n falch iawn fod dychwelyd y Rali i ogledd Cymru wedi bod yn gymaint o lwyddiant gyda gwylwyr a chystadleuwyr fel ei gilydd.
“Profodd y camau RallyFest gyda chefndir trawiadol megis Castell y Waun i fod yn atyniad mawr gan ymestyn apêl y Rali. Rydym yn edrych ymlaen at Rali anfarwol arall ym mis Tachwedd.”
Rali Cymru GB 2014
Dydd Iau 13eg o Dachwedd:
18:30 Seremoni Agoriadol: Parc Eirias, Bae Colwyn
Dros nos Maes Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy
Dydd Gwener 14eg o Dachwedd:
07:44 SS1: Gartheiniog 1 (yr un gylched ag yn 2013)
08:14 SS2: Dyfi 1 (yr un gylched ag yn 2013)
09:26 SS3: Hafren Sweet Lamb 1 (tebyg i 2012)
09:59 SS4: Maesnant 1 (cymal newydd yn defnyddio darnau o gymal Hafren 2013)
11:23 Man gwasanaeth anghysbell: Y Drenewydd
13:07 SS5: Gartheiniog 2
13:37 SS6: Dyfi 2
14:49 SS7: Hafren Sweet Lamb 2
15:22 SS8: Maesnant 2
18:35 Gwasanaeth: Maes Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy
Dros Nos Maes Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy
Dydd Sadwrn 15fed o Dachwedd:
07:48 SS9: Clocaenog East 1 (cylched wedi’i newid, y ffordd groes i gylched 2013)
08:05 SS10: Clocaenog Main 1 (cymal newydd)
09:13 SS11: Aberhirnant 1 (cylched wedi’i newid, y ffordd groes i gylched Penllyn 2013)
10:09 SS12: Dyfnant 1 (y ffordd groes i gylched 2013)
11:59 SS13: Castell Y Waun (fel yn 2013)
13:32 Gwasanaeth: Maes Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy
15;05 SS14: Clocaenog East 2
15:22 SS15: Clocaenog Main 2
16:30 SS16: Aberhirnant 2
17:26 SS17: Dyfnant 2
20:11 Gwasanaeth: Maes Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy
Dros nos: Maes Gwasanaeth Glannau Dyfrdwy
Dydd Sul 16eg o Dachwedd:
08:35 SS18: Brenig 1 (cymal newydd)
09:02 SS19: Alwen 1 (cymal newydd sy’n defnyddio traciau a’u defnyddiwyd ddiwethaf ar gyfer Rali Network Q RAC ym 1993)
09:57 SS20: Parc Cinmel 1 (tebyg i 2013)
10:05 SS21: Parc Cinmel 2
10:55 SS22: Alwen 2
12:00 SS23: Brenig 2 (Power Stage)
13:20 Seremoni Gau: Stryd Mostyn, Llandudno