Becky James yn lliwiau Cymru yn Gemau'r Gymanwlad
Dychwelodd Becky James o Gwpan Trac y Byd ym Manceinion yn ddynes hapus wedi iddi lwyddo i gipio tair medal.

Llwyddodd y ferch o Went i ennill y fedal arian yn y keirin nos Sul, a hithau eisoes wedi sicrhau medal efydd yn y sbrint gêm, ac arian arall gyda Victoria Williamson yn y sbrint tîm.

Llwyddodd y bencampwraig byd, sydd wedi cael blwyddyn ddisglair tu hwnt yn 2013, i ddominyddu’r ddwy rownd ragbrofol, gyda’i chariad George North yn gwylio o’r eisteddle.

Ond roedd y rownd derfynol yn un llawer mwy tactegol, gyda James yn llwyddo i wasgu heibio i Wai Sze Lee o Hong Kong ar y lap olaf cyn dal ymlaen i’r ail safle, gyda Sandie Clair o Ffrainc yn drydydd y tu ôl iddi.

Ond doedd dim dal y feicwraig chwim o’r Almaen, Kristina Vogel, a enillodd yn gyfforddus ag a enillodd y medalau aur ar draws y cystadlaethau sbrint dros y tri diwrnod o gystadlu.

“Ro’ i’n ceisio cyrraedd ei holwyn hi ac aros yno,” meddai James wrth sôn am Vogel.

“Mae ganddi gymaint mwy o gyflymder, roedd pawb yn dal ymlaen.”

Ond ar y cyfan roedd hi’n hapus a’i chasgliad o fedalau, gan ddweud ei bod hi “wedi mynd yn dda”.

Llwyddodd y Cymro Jon Mould i gipio trydydd, a medal efydd, yn ras 10km ‘scratch’ y dynion ar y dydd Sul hefyd, gydag Owain Doull o Gaerdydd yn unfed ar ddeg.

Daeth Elinor Barker o Gaerdydd hefyd yn unfed ar ddeg yn ras bwyntiau’r merched.