Wythnos ar ôl i’r Prydeiniwr Chris Froome ennill y Tour de France, mae pennaeth y ras fyd-enwog ar fin ymweld â Swydd Efrog i weld y paratoadau yn Lloegr ar gyfer râs y flwyddyn nesaf.
Bydd Cyfarwyddwr y Tour de France, Christian Prudhomme, yn cyfarfod â Prif Weithredwr Croeso i Swydd Efrog, Gary Verity, er mwyn taro golwg ar y paratoadau.
Bydd rhan gyntaf y râs yn mynd trwy ddyffrynoedd Swydd Efrog am Harrogate ac yna i Efrog cyn gorffen yn Sheffield. Yna bydd y râs yn symud i’r de gan fynd trwy Caergrawnt a Llundain cyn croesi’r sianel i Ffrainc.
Mae ymweliad Christian Prudhomme yn dod ddyddiau yn unig ar ôl i Weinidog Chwaraeon Llywodraeth Prydain, Hugh Robertson AS gyhoeddi buddsoddiad o £10 miliwn ar gyfer y râs flwyddyn nesaf.
Mae disgwyl i Christian Prudhomme ymweld â’r gwaith sy’n mynd rhagddo i baratoi Swydd Efrog ar gyfer y râs, gan gynnwys ail-wynebu canoedd o filltiroedd o ffyrdd yn y sir.