Gareth Bale
Mae rheolwr Tottenham, André Villas-Boas wedi datgelu bod trafodaethau yn mynd ymlaen rhwng asiant Gareth Bale a’r clwb ynglŷn â chytundeb newydd i chwaraewr rhyngwladol Cymru.
Mae Real Madrid wedi dangos diddordeb mawr yn Bale a mae yna adroddiadau yn Sbaen bod y chwaraewr wedi cytuno symud i’r Bernabeu ar gytundeb o chwe blynedd. Wrth siarad o Hong Kong dywedodd Villas-Boas ei fod yn ffyddiog y bydd Bale sy’n 24 oed yn ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb. Ar y funud mae Bale ar gytundeb gyda Spurs hyd 2016.
“Fe wnaethom adnewyddu ei gytundeb ar ddechrau y tymor diwethaf, ac mae Cadeirydd y Clwb a’i asiant yn trafod pethau ar hyn o bryd . Ar y funud yr ydym yn hyderus bod y chwaraewr yn parhau ar gytundeb gyda’r clwb ac nid oes yna unrhyw ddatblygiadau newydd,” dywedodd Villas-Boas.
Mae Villas-Boas wedi dweud eto ei fod yn edmygwr mawr o flaenwr Valencia, Roberto Soldado. Fe fethodd cyfarwyddwr peldroed Spurs, Franco Baldini yn ei ymgais i arwyddo chwaraewr rhyngwladol Sbaen ar ei ymweliad diweddar â Sbaen.
‘‘Mae gennym ddiddordeb yn y chwaraewr, er gwaethaf yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae Soldado yn chwaraewr arbennig ac mae wedi chwarae yn dda i’w glwb Valencia yn ystod y tymhorau diwethaf yma. Cafodd addysg dda gyda Real Madrid ac mae’n chwaraewr y byddem yn dymuno ei ychwanegu at ein carfan,” ychwanegodd Villas-Boas.