Aeth y Gymraes, Jade Jones allan yn yr wyth olaf yn y gystadleuaeth taekwondo ym Mhencampwriaethau’r Byd ym Mecsico ddoe.

Cafodd ei churo gan Mayu Hamada yn y pwysau o dan 57kg.

Aeth hi 2-0 ar ei hôl hi, cyn tynnu dau bwynt yn ôl i fynd â’r ornest i’r pwynt euraid.

Enillodd hi fedal arian ym Mhencampwriaethau’r Byd ddwy flynedd yn ôl, ac roedd yna obeithion mawr y gallai ddod i’r brig gan ei bod hi eisoes wedi curo Hamada yn gynharach yn y gystadleuaeth eleni.

Aeth y Prydeinwyr Michael Harvey, Lutalo Muhammad a Martin Stamper allan yn yr un rownd yn gynharach yr wythnos hon.