Natasha Purdue
Fe fydd y Pencampwriaethau Codi Pwysau Cenedlaethol yn cael eu cynnal ym Mangor y penwythnos hwn.

Ymhlith y cystadleuwyr ar gyfer y digwyddiad Prydeinig fydd y gystadleuwraig Olympaidd, Natasha Perdue, a’r pencampwr ieuenctid Darius Jokarzadeh.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn yng nghampfa Prifysgol Bangor rhwng 9am a 10am.

Mae Perdue a Jokarzadeh, ynghyd â Gareth Evans, wedi sicrhau nawdd gan Raglen Fyd-Eang Codi Pwysau Prydain i barhau i gystadlu.

Jokarzadeh yw’r pencampwr ieuenctid cyntaf o Brydain ar lefel fyd-eang am 18 o flynyddoedd.

Dywedodd hyfforddwr tîm codi pwysau Cymru, Ray Williams: “Mae’r rhain yn amserau cyffrous yng Nghymru wrth i ni agosáu at ffenest Gemau’r Gymanwlad ar gyfer 2014 ac fe fydd nifer o’n codwyr pwysau gorau’n ceisio cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd yng Ngwlad Pŵyl.

Bydd rhai o’r cystadleuwyr ifanc hefyd yn ceisio cymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Ray Williams: “Mae’r digwyddiad yn wych ar gyfer gogledd Cymru gan ei fod yn gyfle gwych i bobol leol weld athletwyr fydd yn ceisio gosod eu stamp yng Ngemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.”