Mae dau Gymro yn cystadlu dros y dyddiau nesaf yn un o brif bencampwriaethau’r byd golff, Meistri’r Unol Daleithiau.
Un yw enillydd y siaced werdd yn 1991, Ian Woosnam, tra bod y llall – Jamie Donaldson o Bontypridd – yn cystadlu yno am y tro cyntaf.
Aeth y ddau Gymro am rownd ymarfer gyda’i gilydd ddoe ar y cwrs yn Augusta. Bydd Woosnam ymhlith y cynharaf i fwrw o’r ti bore fory, am 8.22 amser lleol, tra bod Donaldson yn dechrau ar ei rownd am 11.29 gydag enillydd 1988, Mark O’Meara, yn ei driawd ef.
Mae cyn-enillwyr yn cael yr hawl i ddychwelyd i chwarae yn y Meistri bob blwyddyn.
Ymhlith y cystadleuwyr eraill fydd Tiger Woods, prif ddetholyn y byd ac enillydd y siaced werdd bedair gwaith, a’r Gwyddel Rory McIlroy, sy’n ail yn rhestr y detholion.
Crwtyn ysgol 14 oed o China, Guan Tianlang, fydd y cystadleuydd ifancaf yn hanes y Meistri pan fydd yn cystadlu yfory.
Mae’r Meistri yn dod i ben ddydd Sul.