Colli o bum gôl i un oedd hanes Cymru dan 21 yn erbyn yr Almaen dan 21 ar y Cae Ras yn Wrecsam neithiwr (Medi 10).

Sgoriodd Robin Hack dair gôl i’r ymwelwyr cyn i Johannes Eggestein ei gwneud hi’n 4-0.

Yn fuan ar ôl yr egwyl sgoriodd Mark Harris gic o’r smotyn i Gymru, ond ddau funud yn ddiweddarach sgoriodd Adrian Fein i’r Almaen gan sicrhau buddugolaieth swmpus i’r Almaenwyr ifanc.

Mae gobeithion Cymru dan 21 o gyrraedd Ewro 2020 dal yn fyw gan iddynt guro Gwlad Belg dan 21 o un gôl i ddim yn ei gêm agoriadol hefyd ar y Cae Ras ddydd Gwener.

 

.