Dywed capten tîm rygbi Cymru Alun Wyn Jones fod “yna fwy yndd0 ni” cyn y gêm yn erbyn Lloegr ym ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad heddiw.
Bydd tîm rygbi Cymru’n ceisio creu record o ennill 12 gêm yn olynol wrth iddyn nhw herio Lloegr yng Nghaerdydd.
Ond mae perfformiadau ansicr Cymru hyd yn hyn yn golygu mai’r ymwelwyr yw’r ffefrynnau.
Mae’r Saeson wedi gosod y safon gyda dwy fuddugoliaeth pwynt bonws dros Iwerddon a Ffrainc, tra bod Cymru wedi ennill dwy gêm agos yn erbyn y Ffrancwyr a’r Eidal.
Ond wrth i’r unig ddau dîm diguro herio’i gilydd, mae’n bosib iawn mai dyma’r gêm fydd yn penderfynu enillwyr y bencampwriaeth, ac o bosib y Gamp Lawn.
“Fel carfan, rydym yn hollol ymwybodol o’n perfformiadau diweddar,” meddai Jones, a fydd yn chwarae ei 18fed gêm yn erbyn Lloegr.
“Ennill ydi’r peth pwysicaf, ac mae pobol weithiau yn anghofio sut ydach chi’n ennill. Ond dyna sy’n bwysig – yn enwedig ar y lefel yma.”
“Mae ’na fwy ynddo ni, a gobeithio y galla ni wneud hynny yfory (dydd Sadwrn).”