Bydd rhai o ardaloedd gorllewin a gogledd Cymru yn croesawu taith seiclo Tour Prydain wrth iddi ddychwelyd ar ôl cael ei gohirio llynedd.

Mae trefnwyr y Tour wedi cyhoeddi y bydd dau gymal o’r daith yn cael eu cynnal yng Nghymru.

Bydd cymal tri o’r daith fis Medi yn ras yn erbyn y cloc, fydd yn dechrau yn Llandeilo ac yn gorffen yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne.

Yna, bydd cymal pedwar yn gwrs 215 cilomedr o Aberaeron i’r Gogarth ger Llandudno, gan basio trwy nifer o drefi a phentrefi’r gorllewin a’r gogledd.

Rhai o’r trefi fydd yn cael profi’r ras yn fyw fydd Aberystwyth a Borth, ac mae golwg360 wedi bod yn siarad â’r seiclwr proffesiynol o’r ardal, Gruff Lewis, am ei ymateb i’r cyhoeddiad.

‘Atgofion melys’

“Mae yna lawer o gyffro. Mae lot o fy ymarfer i, a fy nghlwb i, Caffi Gruff, yn digwydd rownd yr ardal yna,” dywedodd Gruff.

“Bydd y cymal yn mynd o Aberaeron, trwy’r canolbarth a gorffen yn y gogledd ar y Gogarth [ger Llandudno], ac mae gen i deulu ym Mhorthmadog, felly mae hynny’n golygu cymaint i fi.

“Pan oedd fy mhartner yn feichiog, ro’n ni’n seiclo’r hewl yna o Ddolgellau ac ar hyd yr arfordir i Borthmadog, felly mae gen i atgofion melys.”

Gobeithion Gruff

Mae Gruff â’i obeithion yn uchel y bydd o’n cael ei ddewis i gystadlu ar Tour Prydain eleni.

“Y diwrnod cyn y cymal hir, mae’r ras yn erbyn y cloc, ac mae fy nhîm i, Ribble, yn wych ar y math yma o gymal,” meddai.

“Dw i’n ffodus o fod mewn sefyllfa lle mae’n edrych yn debyg y bydda’ i yn y tîm.

“Wrth gwrs, bydd yn rhaid i fi berfformio’n dda cyn hynny, a dw i ddim am gymryd dim yn ganiataol.

“Bydd taith yn Norwy mis nesaf cyn Tour Prydain, felly mae’n rhaid i fi aros ar fy meic a chadw’n iach.”

Y Cyngor ‘wrth eu boddau’

Roedd arweinydd Cyngor Ceredigion, y cynghorydd Ellen ap Gwynn hefyd yn edrych ymlaen at groesawu’r cymal.

“Rydyn ni wrth ein boddau yn croesawu Taith Prydain i Geredigion eleni,” meddai.

“Wrth i’r Daith deithio i fyny’r arfordir hyfryd o Aberaeron tuag at ogledd y sir, bydd pobl yn gallu profi’r golygfeydd syfrdanol trwy ddarllediad helaeth y ras.”